Yr Hangout

Cysylltu â phobl eraill. Cael cefnogaeth iechyd meddwl. Dod o hyd i gyfleoedd.

Rydym wedi agor canolfan yng Nghaerdydd, rydym yn ei alw’n Yr Hangout. Ei gyfeiriad yw 26-28 Ffordd Churchill.

Mae’n lle i chi gwrdd â phobl eraill, cael cefnogaeth iechyd meddwl, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, a chymryd rhan mewn grwpiau a allai helpu i roi hwb i’ch lles.

Mae’n addas i unrhyw un 11-18 oed.

Beth sydd yno?

  • Cefnogaeth iechyd meddwl galw heibio (unrhyw bryd rydym ar agor!)
  • Cefnogaeth iechyd meddwl wedi’i threfnu (os byddai’n well gennych wneud apwyntiad)
  • Grwpiau lles
  • Grwpiau creadigol
  • Gwirfoddoli

Mae’n swnio’n dda. Beth sydd angen i mi ei wneud?

Rydym ar agor 3pm – 9pm bob dydd, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau, gan gynnwys gwyliau banc. Ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, gallwch fynychu heb drefnu ymlaen llaw a gofyn unrhyw beth yr hoffech ei wybod.

Ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, rydym yn ceisio peidio â chael pethau fel rhestrau aros hir – gall unrhyw un sy’n teimlo fel bod angen rhywfaint o gefnogaeth arnynt ddod i siarad â ni, ac â’n gilydd byddwn ni’n gweithio allan beth i’w wneud nesaf.

Ar gyfer grwpiau lles, grwpiau creadigol neu wirfoddoli, dewch i siarad â ni am beth sy’n digwydd a phryd, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

Sut ydw i’n cyrraedd yno?

Ei gyfeiriad yw 26-28 Ffordd Churchill, Caerdydd CF10 2DY.

Google Maps

Sut ydw i’n gwneud cyswllt?

Gallwch ddod i’n gweld rhwng 3pm a 9pm, unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Gallwch hefyd anfon neges e-bost hangout@platfform.org neu ffonio 0300 3732717.

Os dymunwch wneud apwyntiad ar gyfer cefnogaeth un i un, mae yna nifer fach o gwestiynau cyflym i’w hateb yma: Yr Hangout – Cael cefnogaeth (i bobl ifanc) (office.com)

Pwy sy’n ei redeg?

Platfform ydym ni, elusen iechyd meddwl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ariannu’r Hangout.

Rydym yn gwneud llawer o bethau mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Nid ydym yn hoffi pan fydd pobl ifanc yn cael gwybod beth sydd ei angen arnynt yn syml, neu fod rhywbeth ‘o’i le’ â nhw. I ni, mae’n bwysig iawn gwrando ar bobl, clywed beth maent yn ei ddweud wrthym, a gweithio â phob unigolyn i ddarganfod â’n gilydd pa bethau fydd yn helpu mewn gwirionedd.

Rydym hefyd yn dwlu ar gysylltiad, oherwydd ein bod yn gwybod y gall ynysiad fod yn beth anodd iawn i les. Dyna pam, yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl, mae gan Yr Hangout grwpiau a ffyrdd eraill i chi gyfarfod â phobl.

Rydym yn gweithio’n agos â gwasanaethau eraill y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn eu rhedeg sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu siarad â’n gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â gwasanaethau eraill os credwn y bydd yn eich helpu chi neu os dymunwch i ni wneud hynny, ond ni fyddwn byth yn rhannu ag unrhyw un nad oes angen iddo/iddi wybod. Gallwch ddarllen mwy am sut rydym yn rhannu gwybodaeth yn ein taflen rhannu data

 

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Power Up

    Prosiect lles pobl ifanc a gweithredu cymdeithasol yw Power Up, ar gyfer pobl ifanc 10-25 mlwydd oed sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

  • Pobl ifanc

    Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc gan ddefnyddio cyfuniad o gefnogaeth cymheiriaid a gweithdai i ddatblygu sgiliau a strategaethau i hyrwyddo lles.