HomeBeth i’w wneud mewn argyfwng

Beth i’w wneud mewn argyfwng

Y peth pwysicaf yw bod y person sydd mewn argyfwng yn cael mynegi eu teimladau mewn lle diogel ac yn teimlo bod eu llais yn cael ei glywed.

 

Ffyrdd o gael help

  • Siaradwch â ffrind neu aelod o’r teulu dibynadwy
  • Defnyddiwch linell gymorth 24/7 – gweler y rhestr yn y paragraff isod
  • Ffoniwch eich meddyg teulu am apwyntiad brys. (Mewn argyfwng, dylid cynnig apwyntiad i chi gyda’r meddyg cyntaf sydd ar gael.)
  • Os ydych chi’n teimlo mewn perygl gallwch ffonio 999 neu ymweld â’ch adran achosion brys lleol.
  • Os ydych chi’n teimlo’n hunanladdol mae yna rai adnoddau gan bobl sydd wedi goresgyn teimladau a sefyllfaoedd tebyg y gellir eu canfod trwy Aros yn Ddiogel.
    Gallwch hefyd ffonio’r Samariaid ar 116 123.
  • Cofiwch na fydd teimladau llethol yn para am byth a gyda rhywfaint o gefnogaeth gallwch chi deimlo’n well.

Lleoedd i gael help nawr

Llinellau cymorth pwrpasol sydd bob amser ar agor, a lle gallwch siarad â rhywun yn gyfrinachol.

  • Y Samariaid: ar gael ar y ffôn 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch eu galw am ddim ar 116 123.
  • C.A.LL Helpline: yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.
  • Young Minds: gallwch anfon neges testun at wasanaeth negeseuon Young Minds Crisis Messenger, am gefnogaeth 24/7 am ddim ledled y Deyrnas Unedig os ydych chi mewn argyfwng iechyd meddwl. Os oes angen help brys arnoch, tecstiwch YM at 85258. Atebir pob neges testun gan wirfoddolwyr hyfforddedig, gyda chefnogaeth gan oruchwylwyr clinigol profiadol.
  • Mae Young Minds hefyd yn cynnig llinell gymorth i rieni a gwarcheidwaid: 0808 802 5544.
  • Papyrus: ar gyfer pobl dan 35 a’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae Papyrus yn cynnig Hopeline, a gellir cysylltu â’r llinell hon ar 0800 068 4141.
  • Childline: gwasanaeth cyfrinachol am ddim i unrhyw un dan 19 oed yn y DU i helpu gydag unrhyw fater rydych chi’n mynd drwyddo. Ffoniwch 0800 1111.
  • Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Mae Meic ar gael rhwng 8am a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â Meic dros y ffôn, e-bost, testun SMS a negeseuon gwib. Mae Meic yn gyfrinachol, yn anhysbys, am ddim, a dim ond i chi.

Help gyda meddyliau am hunanladdiad

Mae Staying Safe yn cynnig cydymdeimlad, caredigrwydd a ffyrdd i helpu i’ch cadw yn ddiogel rhag meddyliau am niweidio neu lladd eich hunain. Cewch gysur a gobaith am adferiad, trwy gyfrwng fideos pwerus gan bobl sydd â phrofiad personol.

Ewch i’r wefan.

Cwnsela

Gall cwnsela a therapïau siarad eich helpu i weithio trwy eich teimladau a’r cyfnodau anodd sy’n effeithio arnoch.

Mewn sesiwn cwnsela, bydd therapydd hyfforddedig yn gwrando arnoch ac yn eich helpu i ganfod ffyrdd o symud tuag at adferiad iechyd meddwl cadarnhaol. Mae llawer o wahanol ddulliau cwnsela ac mae mwy o wybodaeth amdanynt i’w gweld ar wefan Breathe.

Breathe yw ein canolfan cwnsela a lles yng Nghaerdydd.

Os ydych chi’n byw mewn rhan arall o Gymru, gallwch ddefnyddio’r cyfeiriadur cwnsela hwn.

Grwpiau Cefnogaeth

Mae llawer o bobl yn teimlo bod siarad gyda phobl sydd wedi wynebu heriau neu anawsterau tebyg yn gallu bod yn werthfawr dros ben. Beth am wneud ychydig o ymchwil i weld a oes grŵp cefnogaeth yn eich ardal chi ar gyfer unrhyw rai o’r heriau rydych chi’n eu hwynebu? Os nad oes unrhyw beth ar gael yn eich ardal, gallwch chwilio ar-lein am grwpiau neu fforymau; yn aml iawn, elusennau sy’n eu rhedeg.


Help i rywun arall

Efallai nad ydych chi’n gwybod yn union sut mae rhywun yn teimlo ond gall cymryd yr amser i wrando ac egluro eich bod chi am helpu yn gallu wneud byd o wahaeniaeth i rywun sy’n gweithio trwy brofiad poenus.

Pan fydd rhywun yn teimlo ei fod wedi’i orlethu gan ei feddyliau neu ei amgylchiadau, gall fod yn anodd gweld ffordd allan. Atgoffwch nhw nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ac y gallwch chi ddod o hyd i ffordd gyda’ch gilydd i gael y gefnogaeth gywir. Mae’n bwysig eu bod yn sylweddoli, gydag ychydig o help, y gallant oresgyn hyd yn oed yr amseroedd mwyaf poenus.

Beth allwch chi ei wneud i helpu

  • Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau i gael darlun cliriach o’r hyn y mae’r person ei eisiau er mwyn goresgyn argyfwng.
  • Mae sgwrs ofalgar mor bwysig, eglurwch eich bod chi eisiau helpu.
  • Peidiwch â lleihau sut maen nhw’n teimlo, byddwch yn agored, yn anfeirniadol, ac yn onest am eich pryderon.
  • Os ydyn nhw’n teimlo’n hunanladdol a’ch bod chi’n poeni am eu diogelwch, arhoswch gyda nhw a ffoniwch 999 neu ewch gyda nhw i adran achosion brys. Rhowch wybod i’r unigolyn am yr hyn rydych chi’n ei wneud a rhowch sicrwydd iddynt eich bod chi’n am gael help.
  • Rhannwch eich pryderon â pherthnasau, anwyliaid yr unigolyn – gwnewch yn siŵr eu bod yn cael cefnogaeth bob amser nes bod y teimladau wedi mynd heibio.
  • Ffoniwch eu meddyg teulu am apwyntiad brys neu rhowch gynnig ar y GIG yn uniongyrchol 0845 46 47 a 111 y tu allan i oriau
  • Ewch i wefan Staying Safe, gwyliwch rai o’r fideos gyda’ch gilydd i weld sut mae pobl wedi goresgyn teimlo’n hunanladdol ac ystyried cefnogi’r unigolyn i ysgrifennu cynllun diogelwch.
  • Arhoswch gyda’r unigolyn nes ei fod wedi derbyn y gefnogaeth gywir ac yn teimlo’n well, mae hyn yn cynnwys yr unigolyn rydych chi’n poeni am gael cefnogaeth ychwanegol neu asesiad gan berson â chymwysterau addas