Meithrin siarad yn gadarnhaol gyda chi’ch hunan

Mae llawer ohonom yn byw bywydau sydd mor bell o natur nes ein bod yn anghofio pa mor dda mae’n teimlo i fod yn yr awyr agored yn anghofio am ein cyfrifoldebau neu’r rhestr o bethau i’w gwneud sy’n aros amdanom gartref.

Gall cerdded mewn natur neu barc leihau ein lefelau straen a rhoi mwy o egni i ni, sy’n arwain at fwy o deimlad o les.

Ffordd wych o elwa o hyn yw mynd am dro yn ystod eich amser cinio neu ar ôl y gwaith. Gall rhywbeth syml fel mynd am dro yn y parc a sgwrs gyda ffrind wneud rhyfeddodau i’n lles.

Ffyrdd eraill o gysylltu â natur:

  • Os ydych chi’n hoff o ffotograffiaeth, beth am chwilio am warchodfa natur leol lle gallwch ymarfer eich sgiliau. Ewch draw i wefan yr Ymddiriedolaeth Natur i ddarganfod ambell i lecyn lleol ardderchog.
  • Ewch lawr i lan y môr a cherdded yn droednoeth ar y traeth.
  • Nofio gwyllt: darllenwch am fanteision a chanllawiau nofio gwyllt yma.
  • Treuliwch amser gydag anifeiliaid [anifeiliaid anwes, neu ewch i ymweld â chanolfan achub leol]
  • Rhowch gynnig ar ychydig o arddio syml, does dim angen gardd a gallwch ddechrau ar raddfa fach, ond gall dechrau tyfu eich perlysiau, llysiau neu flodau eich hunain fod yn brofiad hynod o therapiwtig. Darllenwch yr erthygl hon os ydych chi’n ddechreuwr llwyr.

 

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn