Dod o hyd i ffordd o fod mewn ‘cyflwr llif’

Fe wnaeth y seicolegydd cadarnhaol Mihály Csíkszentmihályi wneud y term ‘flow state’, neu ‘gyflwr llif’, yn boblogaidd yn 1990 ac mae’n ei ddiffinio fel “trochi’n gyfan gwbl mewn gweithgaredd er ei fwyn ei hun”. Yn ystod y gweithgaredd hwn, mae amser yn hedfan. Mae pob gweithred, symudiad a syniad yn dilyn yn anorfod o’r un cynt, fel chwarae cerddoriaeth jas. Mae pob rhan ohonoch ynghlwm â’r peth, ac rydych yn defnyddio’ch sgiliau i’r eithaf.”

Gall bod mewn cyflwr llif fod yn hynod o hamddenol, weithiau’n heriol ac yn aml yn werth chweil, ac mae’n golygu cymryd rhan mewn gweithgaredd sy’n cymryd 100% o’ch sylw. Meddyliwch am weithgaredd rydych yn ei fwynhau sy’n eich rhwystro rhag poeni neu or-feddwl, sydd angen canolbwyntio’n ddwys ond rydych chi wirioneddol yn ei fwynhau ac yn cael boddhad ohono.

Os buoch chi erioed yn ynghlwm mewn tasg yn gyfan gwbl, yn canolbwyntio ar yr her, yn hollol anymwybodol o’r byd y tu allan, yna mae’n debyg eich bod wedi cael profiad o fod mewn cyflwr llif. Dywedir bod y buddion i’n hapusrwydd yn parhau am hyd at 3 diwrnod a gall fod yn arf bwerus wrth fynd i’r afael a lefelau straen.

Dyma rai enghreifftiau o weithgareddau a all ein helpu i gyrraedd cyflwr llif:

• Celf [crochenwaith, paentio]
• Gwnïo
• Chwarae offeryn cerddorol,
• DIY [adeiladu eich dodrefn eich hunain, trwsio rhywbeth yn y cartref]
• Garddio
• Chwaraeon rydych chi’n eu mwynhau, ac sy’n golygu symud parhaus, fel nofio

Beth am gael golwg ar y sgwrs Ted Talk hon i ddysgu ychydig mwy am ‘y llif’.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn