HomeLlesEich lles

Eich lles

“…mae lles yn golygu synnwyr o bwrpas, optimistiaeth, gobaith, effaith, a chyfeiriad”

Shawn Ginwright – Hope, Healing, and Care

Ar adegau, mae’r heriau a wynebwn yn mynd yn drech na ni, a gall hynny arwain at deimladau o straen, gorbryder a hyd yn oed anobaith. Pan fo hyn yn digwydd, mae’n bwysig chwilio am gymorth; gall natur y cymorth fod yn wahanol i bawb; ond y peth pwysig yw peidio dioddef yn dawel yn ddiangen.

Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod angen help rŵan hyn, darllenwch yr erthygl hon, os gwelwch yn dda. [link through to support page]

Mae llu o ffyrdd y gallwn hybu ein teimlad o les. Gall yr hyn fydd yn gweithio i bob person amrywio ond mae’r gweithgareddau canlynol yn lle da i ddechrau:

1. Myfyrio ac arferion meddylgarwch eraill
2. Bod yn yr awyr agored a chysylltu â natur
3. Meithrin siarad yn gadarnhaol gyda chi’ch hunan
4. Dod o hyd i ffordd o fod mewn ‘cyflwr llif’
5. Ymarfer corff er eich lles cyffredinol
6. Gwneud amser i deulu a ffrindiau
7. Helpu eraill
8. Estyn allan
9. Arferion cwsg iach
10. Bod yn drefnus

  1. Bod yn drefnus

    Mae sawl ffordd y gall bod yn fwy trefnus wella eich iechyd meddwl.

  2. Arferion cwsg iach

    I wella iechyd corfforol a meddyliol yn gyffredinol, mae angen cwsg o ansawdd da arnom.

  3. Estyn allan

    Gall estyn allan deimlo’n anghyfforddus, ond mae’n bwysig gwybod fod angen ychydig mwy o gefnogaeth ar bawb weithiau.

  4. Helpu eraill

    Gall helpu eraill hefyd eich helpu chi i deimlo’n dda gan ei fod yn arwain at newid cadarnhaol yn eich hwyliau a’ch emosiynau.

  5. Bod yn yr awyr agored a chysylltu â natur

    Dengys bod siarad yn gadarnhaol gyda’n hunain yn rhyddhau hormonau sy’n gwneud inni deimlo’n dda ac yn ein helpu i ail-wifrio’r ymennydd i ganolbwyntio ar ein cryfderau