HomeNewid systemBeth yw newid system?

Beth yw newid system?

Credwn fod angen diwygiad radical yn y system iechyd meddwl, a’r system iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach.

Rydym yn rhan o fudiad cymdeithasol ar ei gynnydd sy’n anelu at drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, y ffordd y caiff cymunedau ac unigolion eu galluogi i gael awtonomiaeth dros, ac effaith ar, eu bywydau, eu twf a’u hadferiad eu hunain.

Yn rhy aml, mae’r gwasanaethau sydd i fod i helpu wedi’u seilio ar fodelau diffyg, yn canolbwyntio ar beth sydd o’i le, yn gosod meini prawf cymhwysedd sy’n gwobrwyo salwch ac yn cosbi adferiad. Credwn mewn byd lle mae cyfle am les cynaliadwy i bawb. Mae angen dylunio ein gwasanaethau cyhoeddus a chymorth i gefnogi hyn.

Gwyddom ers tro byd mor rymus yw perthynas ddiffuant, ac mae hyn wedi’i brofi dro ar ôl tro mewn modelau gofal a chymorth “arfer gorau”, ond hen gyfarwydd hefyd yw’r rhwystredigaeth a ddaw o geisio meithrin, hybu ac esblygu’r diffuantrwydd hwn o fewn systemau a diwylliannau ehangach nad ydynt wedi’u cynllunio i gefnogi’r ffyrdd hyn o fod.

Mae amddiffynoldeb proffesiynol, gwarchod y status quo, a threfn sy’n golygu bod rhaid i sectorau cyfan gystadlu yn erbyn ei gilydd er mwyn goroesi oll yn creu sefyllfa wenwynig sy’n rhwystro’r amodau sydd eu hangen yn y system i gyd-greu newid o ddifrif. Yn Platfform, byddwn yn foesegol ac yn benderfynol yn ein dull o herio’r ddeinameg hon a bod yn fodel rôl ar gyfer ffordd well o fod.

Mae gennym lawer i’w ddysgu ond trwy ddatblygu ar wybodaeth, ymchwil, arferion a syniadau sy’n dod i’r amlwg, rydym yn datblygu ein theori newid ein hunain, ac fe’i ategir gan ein dull unigryw o weithio ar sail asedau, wedi’i lywio gan drawma, ac sy’n canolbwyntio ar wella.

Byddwn yn tystiolaethu ein dull o newid y system, gan rannu’r hyn rydym wedi’i ddysgu ac esblygu ar bob cam, ac ar y cyd â chymunedau o ddysgwyr, fe wnawn herio’n hunain a’n gilydd i dorri’r ffiniau gormesol sy’n rhan gynhenid o’r drefn bresennol.