Pobl ifanc

Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i hyrwyddo lles trwy gyfuniad o gefnogaeth cymheiriaid, gweithdai a chyrsiau, cefnogaeth 1:1 a chyfleoedd gwirfoddoli.

Ein hymagwedd

Credwn fod gan bob person ifanc gryfderau cynhenid. Cysylltu â’r cryfderau yma yw lle mae’r gwaith yn cychwyn. Rydym yn gweithio gyda phobl rhwng 14 – 25 oed mewn ystod o leoliadau i hyrwyddo lles.

Rydyn ni’n dod â phobl ifanc at ei gilydd fel eu bod nhw’n gallu cysylltu a rhannu eu profiadau ag eraill a allai fod yn wynebu heriau tebyg i’w rhai eu hunain. Nid ydym yn ceisio ‘trwsio’ pobl, rydym yn gwrando ac yn gweithio gyda phobl ifanc i ddod o hyd i ffyrdd a strategaethau newydd sy’n helpu i hyrwyddo eu hiechyd meddwl a’u lles.

Nid oes angen diagnosis ar unrhyw un i gael mynediad i’n prosiectau, rydym yn gweithio gydag unrhyw un sy’n profi anawsterau. Credwn ei bod yn bwysig i bobl ifanc wybod, beth bynnag maen nhw’n ei wynebu, nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

Meddwl am dy Feddwl

Mae Meddwl am dy Feddwl yn brosiect ledled Cymru sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 17 a 25 oed. Ariennir y prosiect gan Lywodraeth Cymru ac mae’n defnyddio cyfuniad o strategaethau i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • grwpiau cymorth cymheiriaid
  • cyrsiau a gweithdai yn dysgu sgiliau ar gyfer lles
  • cefnogaeth 1: 1 (pan fod angen)
  • cyfleoedd gwirfoddoli
  • y cyfle i ddod yn fentor cymheiriaid, gyda hyfforddiant achrededig.

Rydyn ni wedi dysgu bod cefnogaeth cymheiriaid yn bwerus iawn ar gyfer lles. Gall cwrdd â phobl sy’n wynebu profiadau tebyg eich helpu chi i sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun ac mae’r lleoliad grŵp yn golygu y gallwch chi rannu a dysgu strategaethau a allai eich helpu i deimlo’n well.

Cysylltwch i ffeindio allan am grwpiau yn eich ardal lleol.

 

Pobl Ifanc yn Ngwent

Rydym yn gweithio ar draws Gwent yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed.

Mae ein prosiectau’n defnyddio cymysgedd o weithdai lles a grwpiau cymheiriaid i gefnogi lles. Rydym yn trefnu grwpiau cymheiriaid sy’n cynnig cyfleoedd i gysylltu â phobl o oedrannau tebyg a rhannu profiadau. Ochr yn ochr â hyn, mae ein gweithdai lles yn dysgu strategaethau sy’n helpu i ddatblygu hyder a hunan-barch.

Rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i ddod yn Hyrwyddwyr Adferiad a Gweithwyr Cymorth Gwirfoddol.

Cysylltwch a ni i ddarganfod rhagor.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn


  • Eich lles

    “…mae lles yn golygu synnwyr o bwrpas, optimistiaeth, gobaith, effaith, a chyfeiriad”

    Shawn Ginwright – Hope, Healing, and Care

  • I rieni a gwarcheidwaid

    Beth allwch chi ei wneud os yw'ch plentyn neu berson ifanc rydych chi'n ei adnabod yn profi anawsterau gyda'i iechyd meddwl.