Adref o’r ysbyty

Pan fyddwch chi’n cael eich rhyddhau o’r ysbyty, mae’n bwysig cael rhywle diogel i alw’n adref.

Gallwn weithio gyda chi tra’ch bod yn yr ysbyty i helpu i sicrhau bod gennych le diogel i fynd pan fyddwch wedi’ch rhyddhau.

Rydym yn darparu’r gwasanaethau hyn yn y llefydd a ganlyn:

Caerffili

Rydym yn darparu cefnogaeth a chyngor yn gysylltiedig â thai i bobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref oherwydd mater iechyd meddwl trwy gymorth Gweithiwr Ymyrraeth Gymunedol, Gweithiwr Adref o’r Ysbyty neu Weithiwr Cyswllt Iechyd Meddwl.

Bydd y Gweithiwr Iechyd Meddwl a Chefnogaeth Tai yn rhoi cyngor a chefnogaeth uniongyrchol ar faterion tai i sicrhau gwasanaeth iechyd meddwl sy’n canolbwyntio ar adferiad.

Gwent Office
Uned 2C Foxes Lane
Oakdale Business Park
Oakdale
Coed Duon
NP12 4AB
E: dafyddflay@platfform.org
T: 01495245802 or 07506575675

Casnewydd

Mae ein staff yn gweithio o Ysbyty St Cadog yn darparu cefnogaeth a chyngor yn gysylltiedig â thai i gleifion preswyl. Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnal asesiad a gwiriad iechyd tai cyn anfon yr unigolyn adref.

Swyddfa Gwent
Uned 2C Foxes Lane
Oakdale Business Park
Oakdale, Blackwood
NP12 4AB
01495 245802
Ebost: connect@platfform.org

Rhondda Cynon Taf

Mae ein staff yn gweithio yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cynnal cymorthfeydd, cyfarfod â phobl 1:1, a mynychu rowndiau wardiau/cyfarfodydd cynllunio ar gyfer anfon cleifion adref ar gais.

I ddefnyddio’r gwasanaethau hyn, gallwch hunangyfeirio trwy ofyn i staff yr ysbyty eich cyfeirio neu trwy gysylltu â’r Ganolfan Cyngor ar:

Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU
01443 495188
homelessness@rhondda-cynon-taff.gov.uk

Bro Morgannwg

Mae ein staff yn gweithio yn Ysbyty Llandough yn cynnal cymorthfeydd cyngor, yn cwrdd â phobl 1-1 ac yn mynychu rowndiau ward / cyfarfodydd cynllunio rhyddhau ar gais.

I gael mynediad at y gwasanaethau hyn gallwch hunangyfeirio trwy ofyn i staff yr ysbyty atgyfeirio neu drwy gysylltu â’n swyddfa ym Mro Morgannwg:

9a Tynewydd Rd
Y Bari
Bro Morgannwg
CF62 8HB
02920 895250
connect@platfform.org

Castell-nedd Port Talbot

Swyddfa Abertawe & Castell-nedd Port Talbot
Beaufort House
Beaufort Road
Abertawe
SA6 8JG
01792 763340
E: connect@platfform.org

Cymorth wedi’u Teilwra

Rydym yn cynnal dau brosiect sy’n gweithio gyda phobl sy’n symud o gefnogaeth ddwys (mewn tai â chymorth neu yn yr ysbyty) i ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau cartref yng Nghaerdydd a Sir Gaerfyrddin.

Mae’r gefnogaeth hon hefyd ar gael i’r rhai nad ydynt yn dymuno cael eu rhoi mewn tai â chymorth oherwydd anawsterau gyda byw’n annibynnol ac anghenion cefnogaeth. Rydym yn canolbwyntio ar nodau bach, cyraeddadwy sy’n ymwneud â bywyd bob dydd, datblygu strategaethau ymdopi, lleihau unigrwydd a chyrraedd y gymuned leol.

Gellir derbyn cyfeiriadau gan Weithiwr Cymdeithasol, Cydlynydd Gofal, neu’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol.

Caerdydd

Gall Gweithiwr Cymdeithasol, Cydlynydd Gofal, neu’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wneud atgyfeiriadau. Am wybodaeth, cysylltwch â:

Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Caerdydd,
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
contactils@caerdydd.gov.uk
029 2023 4234
029 2078 8570 – 24h Rhif Argyfwng

Caerfyrddin

Gall Gweithiwr Cymdeithasol, Cydlynydd Gofal, neu’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol wneud atgyfeiriadau. Am wybodaeth, cysylltwch â:

Sue Owen:
sueowen@platfform.org

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Ein hymagwedd

    Mae ein hymagwedd wedi’i seilio ar asedau, wedi'i lywio gan drawma ac yn canolbwyntio ar wella

  • Amdanom ni

    Rydym yn blatfform ar gyfer cysylltu, trawsnewid a newid cymdeithasol.