Ymateb i’r ymgynghoriad ar Reoliadau Digartrefedd

Cefnogwn y dull o ymdrin â thai a digartrefedd sy’n cwmpasu strategaeth tai yn gyntaf, ailgartrefu cyflym a strategaeth dai sy’n ystyriol o drawma sydd wedi llywio datblygiad y cynllun gweithredu ar ddigartrefedd.

Rydym hefyd yn falch bod yr ymgynghoriad ar reoliadau wedi cydnabod yr angen i ailedrych ar fwriadoldeb ac angen blaenoriaethol o fewn y ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn digwydd.

Y dull yn gyffredinol

Mae Platfform yn cefnogi’r dull o ymdrin â thai a digartrefedd sy’n cwmpasu tai yn gyntaf, ailgartrefu cyflym a strategaeth dai sy’n ystyriol o drawma sydd wedi llywio datblygiad y cynllun gweithredu ar ddigartrefedd. Fe wnaethom ymateb i gam ymgynghori’r cynllun gweithredu drwy nodi bod angen archwilio rhai agweddau o’r ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd er mwyn eu diweddaru yn unol â’r dulliau newydd. Gan hynny, rydym yn falch bod yr ymgynghoriad ar y rheoliadau hyn wedi cydnabod yr angen i ailedrych ar fwriadoldeb ac angen blaenoriaethol o fewn y ddeddfwriaeth ar ddigartrefedd ac edrychwn ymlaen at weld hyn yn digwydd.

Mae bwriadoldeb a’r defnydd parhaus o gategorïau angen blaenoriaethol (sy’n eithrio pobl) yn rhwystrau deddfwriaethol i greu polisi tai yn gyntaf ledled Cymru. Nid yw’r rhain yn ystyriol o drawma, ac mae parhau i’w defnyddio i eithrio pobl rhag cael tai yn enghraifft o wasanaeth sy’n peri risg o drawmateiddio pobl drachefn. Mae dweud wrth rywun eu bod yn ‘ddigartref yn fwriadol’, neu nad ydynt yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth, yn gwaethygu teimladau o hunanhyder isel, hunan werth isel a chywilydd, a gwyddom fod hyn oll yn cyfrannu at anawsterau gydag iechyd meddwl. Mae’n dad-ddynoli pobl, ac yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn anghyfleustra ac nad oes gwerth yn perthyn iddynt, drwy system nad yw’n ystyried eu hamgylchiadau a chyd-destun unigryw a allai fod wedi arwain at eu digartrefedd.

Gan hynny, er ein bod yn cefnogi ychwanegu pobl sy’n ‘cysgu allan’ at y categorïau o bobl sy’n cael eu pennu fel bod mewn angen blaenoriaethol – yn bennaf oherwydd y bydd, gobeithio, yn arwain at eithrio llai o bobl rhag cefnogaeth – rhaid inni bwysleisio mai dim ond fel pont tuag at newidiadau deddfwriaethol ehangach i’r system y dylid ystyried y rheoliadau hyn.

Mae gennym bryderon hefyd ynghylch canlyniadau anfwriadol ychwanegu ‘person sy’n cysgu allan’ at y categorïau bwriadoldeb, yn cynnwys ystyried nad yw pobl sydd mewn hosteli yn cysgu allan. Er ein bod yn gwerthfawrogi bod hyn yn cael ei wneud i sicrhau cysondeb deddfwriaethol, teimlwn fod sawl canlyniad anfwriadol a fydd yn deillio o hyn:

Bydd y rhai sy’n cysgu allan sydd wedi gorfod treulio amser mewn hostel yn ddiweddar yn cael eu hystyried yn fwriadol ddigartref oni bai eu bod yn gallu rhoi rheswm da dros adael yr hostel. Er enghraifft, byddai rhywun sy’n cysgu allan a adawodd hostel oherwydd bod cyffuriau ac alcohol wedi’u gwahardd yno’n cael eu hystyried yn fwriadol ddigartref. Nid yw hyn yn gyson ag ethos a dull tai yn gyntaf, sy’n ystyried ei bod yn hanfodol darparu cartref i rywun yn ddiamod cyn gellir rhoi cymorth ar unrhyw faterion eraill fel defnyddio sylweddau. Mae’r dull hwn hefyd yn peidio â chydnabod fod defnyddio cyffuriau neu alcohol yn debygol iawn o fod yn strategaeth ar gyfer ymdopi â thrallod a thrawma plentyndod.

Gall gofyn i rywun ddatgelu pam y gwnaethant adael hostel, neu i fynegi pam y gallai hostel fod yn anaddas, olygu fod yn rhaid i’r person datgelu trawma (fel camdriniaeth rywiol) o flaen swyddog awdurdod lleol heb hyfforddiant. Gallai’r datgeliad ei hun fod yn sbardun i rai pobl, gan achosi fflachio’n ôl i’r digwyddiad/au ac ymatebion trawma cysylltiedig eraill. Gall hyn oll gael ei waethygu gan ymdriniaeth wael â’r sefyllfa gan swyddogion heb eu hyfforddi. O ystyried hanes a diwylliant rhai awdurdodau lleol o ran sut mae gwasanaethau digartrefedd wedi cael eu rhedeg (gweler adroddiad yr ombwdsmon) gallai hyn yn hawdd greu senario ble mae person sy’n rhannu profiad o drawma a’r profiad hwnnw yn cael ei graffu arno gan swyddog sy’n mynegi anghrediniaeth neu wadiad – proses a allai gael ei phrofi fel un sy’n trawmateiddio drachefn ac yn niweidiol i’r unigol, ac un y mae’r heddlu wedi treulio degawdau’n ceisio ei diddymu.

Mae’r cysyniad o fwriadoldeb ohono ei hun yn seiliedig ar ddiffyg. Mae’n creu sefyllfa sy’n golygu bod person yn teimlo’n gyfrifol yn fewnol am y diffyg help a chefnogaeth y maent yn ei dderbyn o ganlyniad. Mae’n rhoi’r ‘bai’ am y sefyllfa ar y person, ac yn peri i’r problemau sydd wedi arwain at gysgu allan barhau. Mae hyn yn creu natur wrthwynebus mewn system ble mae pobl sy’n gofyn am help yn profi canfyddiad fod swyddogion yn eu herbyn. Bydd hyd yn oed y rhai sy’n cael eu pennu’n anfwriadol ddigartref wedi profi system sydd wedi’i chynllunio i eithrio pobl, a bydd hyn yn cynyddu’r lefel o densiwn gwrthwynebus, teimlad o gael eu dieithrio, eu heithrio, neu o beidio cael eu gwerthfawrogi. Gall hyn ategu profiadau trawmatig yn ystod plentyndod, pan fyddai wedi bod yn fwy addas lleihau’r potensial o drawmateiddio drachefn ac ailsefydlu ymddiriedaeth a pherthynas gyda gwasanaethau.

Yn gysylltiedig â’r pryderon hyn, byddem yn ategu casgliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a nododd sawl maes allweddol o bryder. Roedd y rhain yn cynnwys:

  • Canfyddiadau nad oedd hawliau dynol yn cael eu hystyried yn benodol gan asesiadau ac adolygiadau awdurdodau lleol.
  • Roedd oedi sylweddol yn y broses asesu, ac roedd materion sylweddol yn cael eu hepgor yn aml.
  • Roedd cyfathrebu’n aneglur i bobl a oedd yn, neu mewn perygl o, brofi digartrefedd.
  • Roedd methiannau i ystyried addasrwydd llety, ac roedd methiannau i gefnogi pobl sy’n “agored i niwed” gydag “anghenion cymhleth” (termau a ddefnyddiwyd yn adroddiad yr Ombwdsmon).

Nodwn fod pryderon o’r fath wedi’u mynegi’n flaenorol gan nifer o sefydliadau am flynyddoedd lawer ac mae’n adlewyrchu diffyg dehongli neu weithredu cyson o gyfraith a pholisi. Credwn fod angen ymgymryd ag archwiliad mwy cyflawn am y rheswm mai fel hyn y mae pethau, a dylai hynny ffurfio rhan o’r ystyriaethau ar gyfer y rheoliadau hyn, gan fod y canfyddiadau hyn yn pwysleisio pam mae gennym bryderon dros ganlyniadau anfwriadol y rheoliadau hyn.

Mae gennym bryder hefyd am estyniad yr amserlen i fis Mawrth 2023 ar gyfer y cyfnod y caiff awdurdodau lleol ystyried defnyddio llety gwely a brecwast yn addas “pan fo gallu Awdurdod i ddarparu llety wedi’i gyfyngu arno o ganlyniad i bwysau Covid-19”. Mae hyn yn anghyson ag agweddau eraill ar bolisi tai, pan fo newidiadau dros dro i gyfraith oherwydd pwysau Covid-19 wedi cael eu diddymu – er enghraifft, mae’r gwaharddiad ar landlordiaid preifat i droi pobl allan o’u tai wedi dod i ben.

Mae estyniad ar y cyfnod eithriad hwn yn cynnwys risg y bydd rhai awdurdodau lleol yn defnyddio “pwysau oherwydd Covid-19” fel rheswm dros beidio buddsoddi mewn neu ddarparu opsiynau amgen i lety gwely a brecwast. Er ein bod yn gwerthfawrogi na alla Llywodraeth Cymru ragweld yn gwbl gywir pa bwysau oherwydd Covid-19 fydd yn digwydd dros y flwyddyn nesaf, teimlwn fod caniatáu i’r sector rhentu preifat ddychwelyd i “normal” a throi pobl allan, gan ganiatáu i awdurdodau lleol gynnal y cyfnod eithriad oherwydd Covid-19 yn anfon y neges anghywir am fuddion pwy y dylai’r polisi fod yn eu gwasanaethu.

At ei gilydd, mae risg i’r rheoliadau hyn atal y cynnydd addawol tuag at system ddigartrefedd well sy’n canolbwyntio ar atal a datrys digartrefedd yn gyflym. Dylem felly annog Llywodraeth Cymru i symud y system yn ei blaen mewn sawl maes arall drwy adolygu’r system gan roi sylw i’r canlynol:

  • Diddymu bwriadoldeb a dileu categorïau angen blaenoriaethol o blaid dyletswydd gyffredinol i gefnogi a darparu llety.
  • Diddymu defnyddio’r prawf Pereira am fod yn agored i niwed o fewn y system ddigartrefedd, gan ystyried Hotak fel dewis arall.
  • Diddymu defnyddio cysylltiad lleol, ystyried ei ddisodli gyda dull cysylltiad rhanbarthol, a newid y system ariannu i awdurdodau lleol i ategu’r pwysau y maent yn eu hwynebu fel na fyddai unrhyw awdurdod lleol dan anfantais yn sgil hyn.

Buasem yn croesawu’r cyfle i drafod ymhellach.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Gwersi o’r cyfnod cloi

    A yw’r ffordd rydym yn gweithio, yn meddwl, ac yn ymddwyn wedi newid am byth yn sgil y cyfnod cloi? Allech chi fod yn rhan o ddefnyddio’r profiadau hyn i greu gwell dyfodol?

  • Hoffech chi ymuno â’n Bwrdd?

    We are interested in talking to people from all backgrounds, sectors, work, and life experiences who feel a connection and commitment to our values and purpose.