Ymateb ar ymgynghoriad i Gynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru

Cefnogwn nodau a dull y Cynllun Gweithredu, ond credwn y gellid ei gryfhau.

Mae’r cynllun yn cydnabod fod pobl LHDTC+ yn fwy tebygol o brofi heriau iechyd meddwl. Byddem yn pwysleisio bod profi rhagfarn a gwahaniaethu’n ffurf ar drawma, a bod hon yn ffurf ar drawma cyfunol.

Ein dull

Buasem yn pwysleisio’r angen i bob gwasanaeth fod yn ystyriol o drawma, bod yn ymwybodol o’r niwed y gall gwahaniaethu ei achosi, a pheidio ceisio troi’r ymatebion i’r trawma hwn yn faterion meddygol. Mae pobl LHDTC+ yn profi iechyd meddwl gwaelach oherwydd rhagfarn a gwahaniaethu, nid oherwydd bod rhywbeth ‘yn bod’ arnynt.

Rydym yn arbennig o gefnogol o’r cynnig i wahardd therapi trosi. Ni ddylid dweud wrth unrhyw un y dylai eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth o ran rhywedd fod yn rhywbeth i’w ‘iachau’, ond rydym yn parhau i fod yn ymwybodol fod yr arfer hwn yn digwydd, gydag effeithiau cwbl ddisgwyliadwy ar iechyd meddwl.

Fel cam dros dro cyn deddfwriaeth, galwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arweinwyr iechyd a gofal yn anfon neges i seiciatryddion, cwnselwyr, a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill – boed hynny yn y GIG neu’n breifat – fod ceisio ‘iachau’ pobl LHDTC+ yn niweidiol ac yn beryglus. Dylid cyfleu neges o’r fath hefyd i unrhyw sefydliad sydd â rôl gofal bugeiliol, fel sefydliadau crefyddol, gan weithio gyda’r rhai mewn sefydliadau o’r fath sydd o blaid gwahardd therapi trosi i atgyfnerthu’r neges.

Rydym hefyd yn gefnogol o’r angen i gryfhau hawliau pobl draws ac anneuaidd. Byddem yn annog y gwleidyddion sy’n trafod y materion hyn i gydnabod y trawma all ddigwydd pan fo pobl yn teimlo bod eu hawl i fodoli ac arddel eu hunaniaeth eu hunain yn cael ei herio gan wleidyddion, yn enwedig pan fo’r iaith a ddefnyddir yn dad-ddynoli a lleisiau traws/anneuaidd yn cael eu heithrio o’r ddadl.

Rydym yn arbennig o gefnogol o’r cynnig i wahardd therapi trosi. Ni ddylid dweud wrth unrhyw un y dylai eu rhywioldeb neu eu hunaniaeth o ran rhywedd fod yn rhywbeth i’w ‘iachau’, ond rydym yn parhau i fod yn ymwybodol fod yr arfer hwn yn digwydd, gydag effeithiau cwbl ddisgwyliadwy ar iechyd meddwl.

Rydym yn bryderus am y camau gweithredu yn y cynllun sy’n defnyddio’r termau ‘ystyried’ ac ‘archwilio’. Er enghraifft:

“Ystyried sefydlu adolygiad y GIG Cymru gyfan ar gofnodion meddygol pobl draws, dan arweiniad cymunedau traws, i hyrwyddo ymgysylltiad pobl draws â gofal iechyd”

“Ystyried ymgymryd ag ymchwiliad trylwyr ar sut mae’r pandemig Coronafeirws wedi effeithio ar bobl LHDTC+ yng Nghymru.”

Byddem yn awgrymu y câi’r Cynllun Gweithredu ei gryfhau gan ddefnyddio iaith fwy cadarn. Mae llawer o’r camau sydd dan ‘ystyriaeth’ yn gamau a ddylent fod yn rhan o’r cynllun, a dylai ymchwilio ac adolygu polisi i geisio ei wella fod yn drefn arferol. Buasem yn cefnogi adolygiadau o’r ddau faes uchod yn arbennig, a byddem yn awgrymu y dylent gael eu cynnal gan bobl gyda phrofiad bywyd. At hynny, byddem yn argymell tynnu ‘ystyried’ allan o gynlluniau penodol yn gyfan gwbl, ac ymrwymo i gyflawni newid y mae angen dirfawr amdano.

Mae gennym sylwadau hefyd ar y rhannau canlynol o’r cynllun:

Gwasanaethau iechyd

Croesawn y camau gweithredu arfaethedig yn y rhan hon o’r cynllun; fodd bynnag, teimlwn nad ydynt yn herio modelau presennol darparu gwasanaeth.

Mae llawer o bobl LHDTC+ yn wynebu rhwystrau wrth gael mynediad at ofal sylfaenol, yn anad dim y ffaith nad oes dewis o ran y practis meddyg teulu neu syrjeri ddeintyddol sydd ar gael i bobl mewn llawer o ardaloedd yng Nghymru. Weithiau, mae pobl LHDTC+ wedi wynebu staff sydd â rhagfarnau yn y syrjeri meddyg teulu leol, neu mae canfyddiad na all y gwasanaeth gadw cyfrinachedd. Dyma un rheswm pam mae clinigau iechyd rhywiol wedi’u lleoli y tu allan i leoliadau meddyg teulu traddodiadol, ac wedi canolbwyntio ar gynnal cyfrinachedd a chadw pobl yn ddienw. Byddem yn awgrymu bod LlC yn ystyried ffyrdd o ehangu dewis o fewn Gofal Sylfaenol, fel bod pobl LHDTC+ yn gallu dewis cael mynediad at wasanaethau iechyd mewn lleoliad mwy addas a phriodol. Dylai hyn gynnwys gwasanaethau Iechyd Meddwl cymunedol nad ydynt yn feddygol eu natur. Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar rwystrau eraill y mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu pan fo angen iddynt fynychu gwasanaethau, fel defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – a all beri trawma ohono’i hun.

Yn gysylltiedig â’r uchod mae’r gydnabyddiaeth fod Gwasanaeth Rhywedd Cymru’n newydd ac mae’n parhau i fod yn anhygyrch i lawer o bobl mewn rhai rhannau o Gymru. Dylai Llywodraeth Cymru ymdrechu i sicrhau bod holl wasanaethau Iechyd yn addas ac yn hygyrch ym mhob rhan o Gymru.

At hynny, byddem yn galw i’r cynllun sicrhau bod y GIG yn groesawgar ac yn ddiogel i bawb, gan sicrhau mynediad at wasanaethau cymunedol sy’n ystyriol o drawma. Wrth drafod gwasanaethau penodol, byddem yn awgrymu i’r llywodraeth ystyried ai’r GIG yw’r darparwr mwyaf addas. Credwn y gellid darparu rhai gwasanaethau’n well gan ddefnyddio ymarferwyr sydd â phrofiad bywyd, neu gan sefydliadau sydd ag arbenigedd o ran cyrraedd pobl LHDTC+. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y ffactor hwn yn cael ei ystyried wrth gynllunio gwasanaethau.

Rydym yn falch o weld fod y fenter Fast-Track Cities ar gael yng Nghaerdydd, er yr hoffem weld y cynllun yn cael ei gyflwyno ledled Cymru. Er nad yw HIV yn lladdwr mwyach, dim ond canran fach o ddynion hoyw, deurywiol a phanrywiol sy’n cael profion ac yn gallu defnyddio PrEP. Mae’r ofn hwn o ddal HIV a’r stigma yn chwarae rhan enfawr yn hyn ac mae’n cael effaith negyddol ar unigolion.

Plant a Phobl Ifanc

Croesawn y gydnabyddiaeth fod trafodaeth ynghylch perthynas a rhywioldeb mewn ysgolion wedi bod yn rhy heteronormadol, a bod etifeddiaeth drychinebus Adran 28 yn dal i effeithio ar hyn. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg addas ar berthynas iach, a chreu mannau diogel i drafod y pynciau hyn – er gwaethaf yr ‘eliffant yn yr ystafell’ hwn – fod pobl ifanc LHDTC+ mewn ysgolion ffydd yn annhebygol o deimlo’n ddiogel mewn amgylchedd o’r fath.

Rydym yn cydnabod hefyd bod camwybodaeth yn gallu peri mwy o ddrwg na lles, felly byddem yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod addysg addas ar berthynas iach i bobl ifanc  yn cael ei ddarparu gan bobl gymwys. Felly, galwn ar roi hyfforddiant llawn fel blaenoriaeth i weithwyr ieuenctid ac athrawon ynghylch perthynas iach, yn enwedig yn ymwneud â’r gwahaniaeth mewn rhywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd.

Byddem yn awgrymu y dylai’r cynllun hefyd sicrhau bod cyllid yn cael ei ddarparu i ysgolion ar gyfer diweddaru, ailwampio neu ail-ddylunio eu darpariaeth ystafelloedd ymolchi. Mae hon yn aml yn ddadl ffug a gaiff ei thaflu at bobl draws, ac mae sicrhau bod gan ysgolion gyllideb i wneud newidiadau sy’n annog ciwbiclau hunangynhwysol, niwtral o ran rhywedd, yn galluogi ysgolion i greu mannau diogel i’w holl bobl ifanc, yn hytrach na pharhau i roi pobl draws mewn perygl.

Byddem yn galw ar Estyn i archwilio dulliau ysgolion o ymdrin â chydraddoldeb a chynhwysiant, yn benodol drwy sicrhau eu bod yn cyfweld pobl ifanc perthnasol am eu profiadau – dull y gellid, ac y dylid, ei fabwysiadu ar gyfer grwpiau gwarchodedig eraill, fel pobl ifanc sydd ag anableddau. Hoffem hefyd i’r cynllun sicrhau bod ysgolion yn fannau diogel i blant a phobl ifanc gael siarad yn agored am eu rhywioldeb a’u hunaniaeth o ran rhywedd, ond yn bwysicaf fyth yn fan lle gallant riportio unrhyw ffurf ar wahaniaethu neu gasineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth o ran rhywedd. Byddai Platfform yn croesawu gweld pob ysgol yn dod yn ganolfan riportio trydydd parti ar gyfer troseddau a digwyddiadau casineb.

Tai, Diogelwch a Chymuned

Siom i ni yw gweld diffyg cydnabyddiaeth i dai a digartrefedd o fewn y Cynllun Gweithredu.

Mae pobl LHDTC+ yn aml wedi profi digartrefedd a thai gwael, ac maent yn fwy tebygol o orfod gadael amgylcheddau teuluol anniogel yn gynharach na phobl ifanc eraill, gan hefyd brofi rhagfarn yn y sector rhentu preifat. Byddem yn dymuno i’r cynllun gweithredu gydnabod hyn, a sicrhau bod pobl LHDTC+ yn cael eu hystyried yn angen blaenoriaethol o fewn y system ddigartrefedd (nes caiff y categori hwnnw ei ddiddymu o blaid dyletswydd i gartrefu pawb). Hoffem i LlC sicrhau bod holl bolisïau dyrannu tai cymdeithasol ledled Cymru’n adlewyrchu’r gwahaniaethu a bod yn agored i niwed a brofir gan bobl LHDTC+, gan nodi y bydd cynyddu’r stoc o dai cymdeithasol sydd ar gael yn gwneud cyflawni hyn yn haws.

Hoffem i ragfarn a gwahaniaethu gael eu hystyried yn benodol fel sail ar gyfer dileu trwydded landlordiaid o fewn y sector rhentu preifat.

Rydym yn falch bod y cynllun gweithredu’n targedu trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol yn y gymuned LHDTC+ yn benodol, ac yn ymrwymo i gasglu mwy o ddata a chodi ymwybyddiaeth ynghylch y mater hwn. Byddem yn galw hefyd am ariannu darpariaeth briodol o gyfleusterau lloches addas a chefnogaeth arall fel mynediad at gwnsela ac ati.

Yn gyffredinol, ar draws y rhan sy’n trafod cymunedau, byddem yn annog iaith gryfach ac ymrwymiad cliriach i ddiogelu pobl LHDTC+ rhag gwahaniaethu. Yn nhermau chwaraeon, sydd yn aml yn rhan allweddol o siwrne iechyd meddwl pobl, hoffem weld cyfeiriad amlwg at unrhyw gyrff chwaraeon a ariennir gan Lywodraeth Cymru i barhau i fod yn gynhwysol o bobl draws, yn cynnwys Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru, ac eraill. Dylai cyllid gan Lywodraeth Cymru fod yn ddibynnol ar bolisïau sy’n gynhwysol o bobl draws a LHDTC+.

Dylai’r un peth fod yn berthnasol i sefydliadau celfyddydau, ac unrhyw rai eraill sy’n derbyn arian gan Lywodraeth Cymru, ond gan ystyried statws y dadleuon ynghylch cyfranogiad pobl draws mewn chwaraeon, a pharhad defnyddio hyn fel sbardun casineb, dylid blaenoriaethu’r sefydliadau chwaraeon i sicrhau diogelwch a chynhwysiant pobl draws.

Adnoddau

Gan fod yr ymgynghoriad yn gofyn cwestiwn penodol ynghylch adnoddau i’r Cynllun Gweithredu, gwnawn y sylwadau canlynol:

Mewn blynyddoedd diweddar, mae’r duedd wedi bod yn symud oddi wrth darparu arian wedi’i glustnodi ar gyfer Awdurdodau Lleol, o blaid grantiau mwy gyda’r hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol ariannu gwasanaethau yn unol ag anghenion lleol. Er ein bod yn deall y rhesymeg dros hyn, yn enwedig o fewn cyd-destun cyllideb heriol, efallai bod canlyniadau anfwriadol yn perthyn i hyn – yn enwedig yn nhermau gwario ar wasanaethau a phrosiectau sydd â ffocws penodol ar grwpiau lleiafrifol. Gofynnwn, felly, i LlC gomisiynu ymchwil annibynnol i archwilio effaith hyn ar gydraddoldeb.

Mae Platfform hefyd yn credu bod cymunedau ffyniannus yn rhan hanfodol o helpu i atal pobl rhag profi argyfwng iechyd meddwl, yn ogystal â bod yn rhan bwysig o’u hadferiad. Mae’n amlwg mai gan lywodraeth leol mae’r potensial i chwarae’r rhan helaethaf mewn cefnogi a datblygu’r cymunedau hyn. Fodd bynnag, mae cyni wedi golygu mai gwasanaethau anstatudol sydd wedi profi’r toriadau llymaf, sydd wedi effeithio ar gyfleusterau cymunedol a’r gallu i gymunedau gysylltu. Gofynnwn felly i Lywodraeth Cymru sicrhau na fydd darpariaeth adnoddau ar gyfer y cynllun gweithredu LHDTC+ yn dod ar draul gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n cyfrannu at greu cymunedau ffyniannus.

At hynny, nid y cyllidebau yw’r unig ystyriaeth o ran adnoddau.

Mae angen staff medrus ar wasanaethau cyhoeddus, gyda mynediad at ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant priodol. Eto, mae anghysondeb ac ansawdd amrywiol wedi bod o ran hyfforddiant cydraddoldeb o fewn Gwasanaethau Cyhoeddus yn y gorffennol, a chaiff ei ystyried yn ymarfer ‘ticio’r blwch’ yn rhy aml, yn hytrach na rhywbeth a all helpu sefydliad i adolygu, dysgu a gwella sut caiff ei holl wasanaethau eu darparu i gymuned benodol.

Mae angen felly i’r Cynllun Gweithredu ystyried sut gall wreiddio’r gwerthoedd a’r sgiliau y mae eu hangen i gyflawni’r hyn a gynigir yn sefydliadau’r sector cyhoeddus yn ehangach. At hynny, byddem yn nodi nad oes gan lawer o sefydliadau’r sector cyhoeddus weithluoedd sy’n adlewyrchiad o’r gymdeithas ehangach o hyd, a byddem yn awgrymu eu bod yn mynd ati’n weithredol i chwilio am bobl sydd â phrofiad bywyd i ddarparu gwasanaethau pan fo’n briodol.

Yn olaf, byddem yn awgrymu dull gwahanol o ymdrin â gwasanaethau a gaiff eu contractio allan neu eu comisiynu o ganlyniad i’r cynllun gweithredu hwn. Ni chredwn fod gofyn i sefydliadau gystadlu ar sail cost neu feini prawf llym a chul o reidrwydd am ddarparu gwasanaeth gwell. Byddem yn cynnig bod comisiynwyr yn dylunio contractau ar y cyd â’r sefydliadau a allai ddymuno darparu’r gwasanaeth, gan sicrhau cyd-gynhyrchu gwirioneddol a chontractau sy’n osgoi biwrocratiaeth ddiangen neu’n llesteirio arloesedd.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn