HomeAmdanom niEin mentrau cymdeithasol

Ein mentrau cymdeithasol

Rydym yn gweithredu mentrau cymdeithasol sy’n ail-fuddsoddi’r holl elw i’n gwaith elusennol ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth.

APP UK

Nod APP UK yw bod yn ddewis cyntaf fel darparwr glanhau a chyfleusterau, ac mae’n cyflawni gwaith glanhau, cynnal a diogelu ar gyfer eiddo a stadau ei gwsmeriaid. Mae’r cwmni’n ddigon bach i falio – ac yn ddigon mawr i ymdopi. Rydym yn rhagori wrth addasu ac arloesi, gan gynnig opsiynau gwasanaeth unigol neu atebion integredig ar gyfer eich cyfleusterau sy’n plethu’n llyfn â’ch gofynion penodol.

Os hoffech ddysgu mwy am sut gallai APP UK gefnogi eich anghenion, ewch draw i’r wefan:

Dysgu mwy am APP UK.

Breathe

Yn 2018 fe wnaethom sefydlu Breathe, ein canolfan cwnsela a lles unigryw yng Nghaerdydd.

Caiff yr holl elw o Breathe ei ail-fuddsoddi yn Platfform, yn helpu i ariannu ein gwaith ar hyd a lled Cymru a chreu model cynaliadwy lle gallwn gynnig cwnsela am gost isel i bobl sy’n ddi-waith neu ar incwm isel.

www.breathespaces.com

Cwnsela a Therapïau

Mae Breathe wedi’i staffio gan dîm o gwnselwyr proffesiynol, pob un ohonynt yn gofrestredig gyda BACP, a phob un yn cynnig dull cwnsela wedi’i deilwra.

Therapi siarad yw cwnsela, lle mae therapydd hyfforddedig yn gwrando ar y sawl sy’n mynychu ac yn eu helpu i ganfod ffyrdd i symud ymlaen tuag at adferiad iechyd meddwl cadarnhaol.

Mae Breathe hefyd yn gartref i amrywiaeth o therapïau a gweithgareddau sy’n cefnogi ac yn mwyhau lles, yn cynnwys adweitheg, yoga a shiatsu.

Dysgwch fwy am gwnsela a therapïau yn Breathe.

Lles yn y Gwaith

Mae Breathe yn cynnig amrywiaeth o raglenni lles yn y gwaith y gellir eu teilwra i bob math o fudiadau a chwmnïau.

Gall y rhain gynnwys Materion Lles yn y Gwaith, Hyfforddiant Iechyd Meddwl ar gyfer Unigolion, Datblygu Gweithwyr Gwydn, Rhaglenni Cymorth Gweithwyr a Diwrnodiau Meithrin Tîm a Lles.

Dysgwch fwy am gyrsiau a hyfforddiant lles yn y gwaith.