HomeAmdanom ni

Amdanom ni

Platfform yw’r elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol.

Rydym yn blatfform ar gyfer cysylltu, trawsnewid a newid cymdeithasol.

Rydym yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw’n byw ynddynt.

Nid ydym yn credu bod pobl na chymunedau wedi “torri” nac angen eu trwsio. Yr hyn sy’n ein gyrru ymlaen yw’r gred sylfaenol mai dull wedi’i seilio ar gryfderau yw’r sylfaen ar gyfer lles cynaliadwy i bawb.

Rydym yn defnyddio dull wedi’i lywio gan drawma i ddeall iechyd meddwl a thrallod emosiynol, ac ystyriwn nad yw’r systemau iechyd meddwl, a systemau iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector cyhoeddus ehangach, bellach yn ‘addas i’w pwrpas’. Yn seiliedig ar fodelau salwch a/neu ddiffyg, maent yn gwadu’r gobaith a’r effaith i unigolion wella.

Rydym yn rhan o fudiad cymdeithasol ar ei gynnydd sy’n gweithio tuag at newid sylfaenol yn y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu, fel eu bod yn cefnogi pobl ar drywydd lles cynaliadwy i fyw’r bywyd y maen nhw’n ei ddewis.

Rydym wedi gweithio yng Nghymru dan yr enw Gofal am 30 mlynedd, ac o 24 Gorffennaf, Platfform ydym ni.