Prosiectau cymunedol

Mae angen i ni i gyd gysylltu ag eraill, a theimlo’n rhan o’r byd o’n cwmpas. Mae ein prosiectau cymunedol yn rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd, dysgu sgiliau a hobïau newydd a mwynhau treulio amser gyda’i gilydd – beth bynnag yw lefel eu hyder.

Gwent

Y Cyfarfod Croeso

Byddwch yn chi’ch hun mewn lle cyfeillgar

Mae Croeso yn gyfarfod wythnosol hamddenol, heb bwysau. Mae pobl yn dod draw i sgwrsio mewn awyrgylch cyfeillgar ac mae crefftau, cerddoriaeth, prosiectau creadigol a chyrsiau lles dewisol.

Mae yna Gydweithfa Bwyd, felly mae ffrwythau a llysiau ffres a chynnyrch arall ar gael am brisiau fforddiadwy. Rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Phrosiect Gardd Gymunedol Taraggan ym Margoed, felly mae cyfleoedd i gael eich dwylo’n fudr.

Magwch eich hyder ar eich cyflymder eich hun, ac yn eich ffordd eich hun.

Am ddod draw? Pan fyddwch chi’n teimlo’n barod, galwch heibio ar unrhyw adeg rhwng 10:00am – 12:30pm, bob dydd Mawrth (ac eithrio Gwyliau Banc) yn Uned 2C Foxes Lane, Parc Busnes Oakdale, Oakdale, Coed Duon NP12 4AB.

I sgwrsio â ni yn gyntaf, ffoniwch 01495 245802 neu cysylltwch â connect@platfform.org


Bargoed

Gardd Cymunedol

Rydym yn gweithio gyda Taraggan, prosiect garddio organig cymunedol wedi’i leoli ym Margoed. Mae Taraggan yn dod â phobl o bob cefndir ynghyd, gan eu helpu i ddysgu sgiliau rhandiroedd a garddio, tyfu cynnyrch organig gwych, a chysylltu â natur. Yna caiff y cynnyrch a dyfir ei werthu i’r gymuned leol am brisiau da, felly mae gwaith da’r garddwr yn mynd ymhellach.

Mae Taraggan bob amser yn croesawu rhoddion o bren sgrap, hadau a phridd. Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect, neu roi rhodd, cysylltwch â ni:

connect@platfform.org


Caerdydd

Prosiect Crochenwaith Creadigol

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Gweithdai Crochenwaith Caerdydd, i ddod ag agweddau cadarnhaol crochenwaith i fywydau mwy o bobl. Mae’n hobi hamddenol a gwerth chweil mewn amgylchedd cyfeillgar a chreadigol – ffordd wych o gysylltu â’ch cymuned.

Darganfyddwch rhagor yma.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn