Estyn allan

Gall estyn allan deimlo’n anghyfforddus, ond mae’n bwysig gwybod fod angen ychydig mwy o gefnogaeth ar bawb weithiau. Gall bod yn agored a siarad gyda rhywun am eich meddyliau roi cysur i chi a’ch helpu i deimlo bod pobl yn eich deall.

Gall siarad allan am beth allai fod yn eich poeni eich helpu i roi trefn ar eich meddyliau a blaenoriaethu’r hyn y gallech fod angen ychydig o gymorth i ymdopi ag ef. Gall siarad trwy eich problemau helpu i leihau’r straen emosiynol a chorfforol rydych chi’n ei deimlo trwy ryddhau’r teimladau a’r emosiynau. Gall teulu, ffrindiau a phobl rydym yn ymddiried ynddyn nhw helpu, ac mi fyddan nhw eisiau helpu, ond weithiau gall siarad gyda pherson proffesiynol deimlo’n fwy cyfforddus. Y peth pwysicaf yw rhoi llais i’ch teimladau.

Os bydd pethau’n teimlo’n anodd a bod angen estyn allan arnoch:

1. Estynnwch allan at ffrind neu aelod o’ch teulu i drafod pethau
2. Ffoniwch neu ewch i weld gweithiwr iechyd proffesiynol i siarad am sut rydych yn teimlo
3. Ffoniwch linell gymorth [mae’r rhain ar agor 24 awr y dydd]

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn

  • Stori Barrie

    This is the excerpt for Barrie's story

  • Cysylltwch â ni

    Os oes gennych ddiddordeb yn ein prosiectau neu wasanaethau, cysylltwch â'ch swyddfa leol.