“Os Nid Nawr Yna Pryd” – Barn Platfform am ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

Ar y cyfan, mae Platfform yn falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal wrth ofalu a chefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a’u heiriolaeth o drawma ac arfer gwybodus. Fodd bynnag, mae gennym rai pryderon nad oes ymrwymiad digon cadarn i’r diwygiadau radical y mae’r adroddiad yn gofyn amdanynt.

Mae gennym rai pryderon nad oes ymrwymiad digon cadarn i’r diwygiadau radical y mae’r adroddiad yn gofyn amdanynt. Ond nid yw’r cyfan yn gyfle a fethwyd.

Crynodeb o’r Ymateb:

Ar y cyfan, mae Platfform yn falch iawn o glywed bod y Llywodraeth yn cydnabod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal wrth ofalu a chefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, a’u heiriolaeth o drawma ac arfer gwybodus.  Fodd bynnag, mae gennym rai pryderon nad oes ymrwymiad digon cadarn i’r diwygiadau radical y mae’r adroddiad yn gofyn amdanynt.  Roedd hyn yn gyfle i fachu’r awenau dros newid ac mae’r nifer o awgrymiadau a wrthodwyd yn peri pryder penodol.  Mae’r system yn simsanu, ac mae pobl ifanc yn galw am newid radical.  Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i arwain y newid hwnnw.

Ond nid yw’r cyfan yn gyfle a fethwyd.

Ynglŷn â Platfform

Sefydlwyd Platfform yn 2019 o Gofal, elusen iechyd meddwl a sefydlwyd yng Nghymru ar ddiwedd y 1980au.   Drwy weithio am ddegawdau ar draws y meysydd tai ac iechyd meddwl, cawsom fewnwelediad gwirioneddol o realaeth iechyd meddwl mewn cymdeithas, effaith trawma, ac achosion gofid.  O ganlyniad i’r gwaith hwnnw fe wnaethom newid ein ffocws a newid i fod yn Platfform, elusen dros iechyd meddwl a newid cymdeithasol.

Heddiw rydym yn gweithio gyda 9,000 a mwy o bobl y flwyddyn.  Rydym yn cefnogi pobl o bob oed, ar draws cymunedau trefol a gwledig, yng nghartrefi pobl ac ochr yn ochr â gwasanaethau eraill.  Mae ein gwaith yn rhychwantu lleoliadau, gwasanaethau argyfwng, llesiant cymunedol, tai â chymorth a digartrefedd, busnesau, cyflogaeth, cwnsela, ysgolion a chanolfannau ieuenctid.

Ein Hymateb:

Yn gyntaf, rydym yn gryf o blaid gweithredu Fframwaith NYTH ac rydym yn falch o weld bod y Llywodraeth yn ei gefnogi.  Mae’r syniad sy’n sail i NYTH, sef cadw unigolion yn ddiogel a’u bod yn gallu ffynnu gyda chymorth penodol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn bwysicach i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, oherwydd y trawma a’r heriau ychwanegol y gallai hyn ei greu.  Felly, mae’n hollbwysig bod ganddynt oedolion y gallant ymddiried ynddynt o’u hamgylch a gwasanaethau sy’n cydweithio i’w cefnogi ac i beidio achosi trawma pellach iddynt.

Rydym hefyd yn falch o glywed bod manyleb gwasanaeth yn cael ei greu ar gyfer CAMHS.  Gwyddom o’n hymgysylltiad â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiadau o ddefnyddio CAMHS bod ganddynt bryderon ynglŷn â’r gwasanaeth, felly y gobaith yw y bydd mwy o eglurder am y gwasanaeth ei hun yn golygu y gall ddarparu cefnogaeth well i blant a phobl ifanc.  Mae hyn yn cynnwys cefnogi’r rhai â lefelau amrywiol o ofid waeth beth yw eu cefndiroedd, gan ddefnyddio dull gweithredu wedi’i bersonoli ac sydd wedi’i hysbysu gan drawma i ddarparu cymorth a mabwysiadu dull gweithredu wedi’i arwain gan angen.

Wrth gwrs, mae’n bwysig iawn pwysleisio nad sicrhau mynediad at CAMHS yw’r ateb i bob problem fel sy’n cael ei ystyried yn aml, ac nid dyma’r opsiwn cywir i bawb bob amser.  Rydym hefyd yn cefnogi symudiad tuag at ddull system gyfan ar gyfer creu’r amodau ar gyfer iechyd meddwl da ac iachau yn y lleoedd y mae gan blant a phobl ifanc (ac oedolion hefyd) berthnasoedd eisoes (er enghraifft yn yr ysgol).  Yn llawer rhy aml mae mynediad at CAMHS yn cael ei ystyried fel yr ymyrraeth bwysicaf sy’n gosod pobl ifanc ar lwybr iechyd meddwl meddygol, ond yr hyn sydd ei angen arnynt yw cysylltiad ag eraill, sy’n cael ei ddatblygu o sylfaen ddiogel.  Yr hyn sydd ei angen arnom yw i leoedd fel ysgolion a gwasanaethau cyhoeddus eraill fod yn fwy ymwybodol o drawma a defnyddio dulliau iechyd perthynol, nid ymagwedd gosbol i ‘newid ymddygiad’.

Mae angen i systemau ddeall bod pob math o ymddygiad yn ffordd o gyfleu angen heb ei gyflawni.  Bydd symud oddi wrth ddulliau fel ‘barod i ddysgu’ tuag at ddull lleiaf cyfyngol ac sy’n canolbwyntio ar hawliau dynol, er enghraifft cefnogaeth ymddygiad cadarnhaol, yn hollbwysig.  Ar yr un pryd, dylai CAMHS gael ei seilio ar fodel cymdeithasol o ymyrraeth iechyd meddwl, ac rydym yn cydnabod eu bod eisoes wedi cymryd camau tuag at hyn.

Ar ben hynny, croesawn gyflwyniad y Gronfa Newid Plant sydd â Phrofiad o Ofal oherwydd gallai cael eich gwahanu neu’r posibilrwydd o gael eich gwahanu oddi wrth eich plentyn fod yn sefyllfa ofidus a thrawmatig iawn.  Os gellir cynorthwyo mwy o rieni i wybod eu hawliau ac i gadw eu plant o bosibl, yna bydd llai yn ymuno â’r system ofal yn y lle cyntaf.  Gwyddom fod prosiectau presennol yn effeithiol, felly mae’n wych clywed bod gan y rhain y cyllid i ehangu yn awr.  Mae cefnogi teuluoedd cyfan i dorri’r cylch o drawma yn hollbwysig er mwyn lleihau’r nifer o blant sy’n profi adfyd ac sy’n ymuno â’r system ofal.

Rydym yn falch hefyd bod Argymhelliad 16 wedi’i dderbyn gan y Llywodraeth, sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru ac eraill yn gwella profiadau ysgol plant sydd â phrofiad o ofal.  Gwyddom y gall yr ysgol fod yn lleoliad anodd ei lywio, yn arbennig i’r rhai nad oes ganddynt gefnogaeth rhwydwaith teulu sefydlog yn gefn iddynt.  Bydd cefnogi plant sydd â phrofiad o ofal gyda’r hyn y gallai fod ei angen arnynt i fynychu’r ysgol yn golygu y gallant gyrraedd eu potensial uchaf a mynd ymlaen i fyw bywydau ffyniannus.

Yn ogystal, rydym yn falch iawn o glywed am waith y Bwrdd Rhaglen Dileu Elw, a’r gwaith mae’n ei wneud i archwilio gwasanaethau anghofrestredig oherwydd nid yw gwasanaethau anghofrestredig yn debygol o fod yn gweithredu er budd gorau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac eraill sy’n debygol o elwa ar wneud arian drwy fusnesau sy’n gofalu am blant â phrofiad o ofal.  Bydd nodi a dileu’r hyn a allai fod yn cymell gwasanaethau i weithredu heb gofrestru yn fuddiol i’r awdurdod lleol ac i’r plant a’r bobl ifanc.

Fodd bynnag, roeddem yn siomedig bod y Llywodraeth wedi gwrthod Argymhelliad 3.  Credwn y dylai Llywodraeth Cymru lobïo Llywodraeth y DU i ddiwygio adran 4 Deddf Cydraddoldeb 2010 i ychwanegu ‘profiad o ofal’ fel nodwedd warchodedig.  Gwyddom fod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn wynebu gwahaniaethu oherwydd eu cefndir, a gall hyn effeithio ar eu gallu i ddod o hyd i waith a’i gadw.  Drwy wneud ‘profiad o ofal’ yn nodwedd warchodedig, byddem yn sicrhau y byddai gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phrofiad o ofal yn cael ei ystyried i’r un graddau difrifol â gwahaniaethu yn erbyn unrhyw nodweddion gwarchodedig eraill a byddai’n lledaenu ymwybyddiaeth o wahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phrofiad o ofal ymhlith y cyhoedd.  Byddai hefyd yn sicrhau diogelwch am oes yn erbyn gwahaniaethu, a fyddai’n golygu y byddent yn cael eu cefnogi ymhell y tu hwnt i’w pen-blwydd yn 25 oed.

Ni allwn weld unrhyw reswm da, ac ni chynigiwyd unrhyw reswm da, pam fod Llywodraeth Cymru’n gwrthwynebu cynnwys profiad o ofal fel nodwedd warchodedig.  Deallwn nad yw hyn wedi’i gynnwys yn ein setliad datganoli presennol, ond mae gwrthod lobïo Llywodraeth y Du ar y mater hwn yn siomedig iawn.

Ymhellach, er ein bod yn croesawu’r dadansoddiad o’r achosion Amddifadu o Ryddid, byddem yn awgrymu nad yw hyn yn mynd yn ddigon pell.  Mae gweithredu Gorchmynion Amddifadu o Ryddid yn arfer sy’n gwrthwynebu’n uniongyrchol y dull arfer wedi’i hysbysu gan drawma y mae’r Llywodraeth yn cydnabod sydd ei angen ar gyfer gofalu a chefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.  Felly, mae angen cynnal adolygiad i effeithiolrwydd y dull amddifadu hwn, ac mae angen ystyried ffyrdd amgen a mwy perthynol o weithio.  Unwaith eto, roedd hyn yn gyfle i hyrwyddo achos pobl ifanc sydd â phrofiad o effaith gyfyngol Gorchmynion Amddifadu o Ryddid, a byddem yn annog Llywodraeth Cymru i ail-ystyried hyn.

Rydym yn falch bod y Llywodraeth yn ymrwymedig i sicrhau y gall pobl sy’n gadael gofal gael mynediad at y cynllun Pan Wyf yn Barod ar ôl 18 oed.  O ystyried y byddant yn symud i’r gwasanaethau iechyd oedolion pan fyddant yn 18 oed, byddai parhau â Pan Wyf yn Barod y tu hwnt i’r oedran hwn yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd allweddol iddynt.  Fodd bynnag, credwn y dylid ymestyn y cynllun hwn i bawb sy’n gadael gofal hyd nes y byddant yn 25 oed, p’un a ydynt mewn addysg neu hyfforddiant amser llawn ai peidio.  Bydd rhoi’r gorau i ddarparu Pan Wyf yn Barod yn 21 oed yn amddifadu pobl ifanc o gymorth hollbwysig, yn arbennig i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg neu hyfforddiant, gallai gael effaith negyddol ar y tebygolrwydd y byddant yn ymgysylltu eto ag addysg a hyfforddiant, a allai effeithio ar eu cyflogadwyedd yn y dyfodol.

Casgliad:

Yn gryno, rydym yn cydnabod bod gwaith da yn cael ei wneud i gynyddu’r cymorth a roddir i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru’n cydnabod yr angen am ofal wedi’i hysbysu gan drawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan ganolbwyntio ar gymorth cynnar a model atal.

Fodd bynnag, wrth ystyried ‘diwygiadau radical’ byddem yn dadlau nad yw’r ymateb hwn yn ddigon radical i sicrhau bod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn derbyn y cymorth a fyddai’n sicrhau eu bod yn tyfu i fyny i fyw bywydau ffyniannus a llewyrchus – y bywydau y maen nhw eisiau eu byw.  Byddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y trothwyon oedran ar gyfer darparu cymorth a chyflwyno mwy i ddiogelu pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal rhag y gwahaniaethu maen nhw’n ei wynebu er mwyn iddyn nhw allu gwireddu’r dyfodol hwn.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn